Skip to main content
Amnesty International UK
Log in

Cymru: Digwyddiad newydd ar drywydd yr ymgyrch: Pawb a'i farn - Mardi Gras

Lleoliad: Neuadd Bancio, 113 Stryd Bute, Caerdydd
Pryd: 6.00pm, 13 Mawrth 2007

Dydd Mawrth (13 Mawrth), bydd gwleidyddion o’r pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru yn cael eu holi gan y Gymuned Lesbiaidd, Hoyw a Thrawsrywiol yng Nghymru.

Yr achlysur hwn, a fydd yn cael i gynnal yn y Neuadd Bancio, Stryd Bute, Caerdydd, yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru. Y cadeirydd fydd Gohebydd Gwleidyddol ITV Cymru, Nick Speed a bydd yn rhoi cyfle i aelodau o’r gymuned hoyw ofyn i’w cynrychiolwyr pam y dylen nhw bleidleisio, a pha blaid sy’n eu cynrychioli orau.

Ers etholiadau diwethaf y Cynulliad, rhoddwyd yr hawl i bleidleiswyr lesbiaidd a hoyw gadarnhau eu hymrwymiad i’w cymheiriaid trwy bartneriaethau sifil. Yn fwy diweddar, enillodd lesbiaid a dynion hoyw'r hawl i beidio â dioddef camwahaniaethu ar sail eu tuedd rhywiol. Cafodd y ddeddfwriaeth Nwyddau a Gwasanaethau sylw helaeth iawn yn y cyfryngau pan ddaeth y mesur gerbron y senedd; gallai hyn fod yn bwnc i’w drafod.

Dywedodd Adam Rees, Cyd-Gadeirydd Mardi Gras Lesbiaid a Hoywon Caerdydd-Cymru:
“Wrth gwrs, mae amryw o feysydd lle nad yw cydraddoldeb wedi’i sefydlu eto, a lle mae camwahaniaethu a bwlio yn gallu digwydd o hyd. Gyda chynifer o newidiadau yn y blynyddoedd diweddar, rydym yn awyddus i ymchwilio lle mae’r pleidiau’n sefyll ar y pynciau hyn a pham ei bod yn bwysig i bobl lesbiaidd a hoyw bleidleisio yn etholiad Cynulliad Cymru.” “Hwyrach mai’r Mardi Gras yw’r parti mwyaf yng Nghymru - ond nid dyna’r cyfan; bydd hefyd eleni yn ymestyn allan i’r gwneuthurwyr polisi gan gynnal trafodaeth ar sut y gallwn ni gydweithio. Dyma’r tro cyntaf, ond gobeithio, nid y tro olaf i ni gynnal cyfarfod o’r fath.”

Dywedodd Cyfarwyddwraig Amnest Rhyngwladol Cymru, Cathy Owens:
“Gyda’r cwtogi llym ar ymgyrchwyr hawliau hoywon ledled Ewrop, nid oes modd i ni fodloni ar yr hyn sydd wedi digwydd yma. Mae angen i ni sicrhau bod y pleidiau i gyd yn archwilio eu polisïau am arwyddion o gamwahaniaethu, a’u bod yn trafod mwy gyda’r Gymuned Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol er mwyn dysgu mwy am y camwahaniaethu a’r troseddau casineb sy’n dal i ddigwydd yng Nghymru.”

Dywedodd Matthew Batten, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus Stonewall Cymru
“Mae Seiat Holi Mardi Gras yn gyfle da i holi’r pedair prif blaid am eu hymrwymiad i bynciau lesbiaidd a hoyw. Anogwn y boblogaeth lesbiaidd a hoyw yng Nghymru i ddefnyddio ei phleidlais yn ddoeth ac i feddwl yn ofalus am y sawl sydd wedi cefnogi a’r rhai sydd wedi gwrthwynebu cydraddoldeb i hoywon.”

Cynhelir y digwyddiad am 6.00pm ar 13 Mawrth yn neuadd bancio’r Hen Adeilad Nat West yn 113-116 Stryd Bute, Mermaid Quay, CF10 5EQ. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu. I fod yn sicr o le, gallwch anfon e-bost at info@cardiffmardigras.co.uk neu ffonio 029 2046 1564 i logi lle.

View latest press releases