Skip to main content
Amnesty International UK
Log in

Amnest yn croseawu dadl cynulliad cenedlaethol ar Gaza

Mae Amnest Rhyngwladol wedi croesawu cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal dadl  y prynhawn ‘ma (23 Mehefin). Bydd y ddadl yn canolbwyntio ar effaith y blocad ar Gaza i gael ymchwiliad annibynnol i farwolaeth protestwyr.
 
Dywed Cathy Owens, Cyfarwyddwr Rhaglenni Cymru Amnest Rhyngwladol:
“Mae gan bobl Cymru hawl i bryderu am yr anawsterau sy’n wynebu pobl gyffredin Gaza a’r modd y mae lluoedd Israel yn delio â’r protestwyr. Mae’n gyfiawn ac yn gywir bod y Cynulliad yn trafod y materion hyn. Mae llywodraethau ar draws y byd wedi bod yn amddiffyn deddfau rhyngwladol ac felly dylen ni wneud hyn. Mae’n fater o gael ein dwyn i  gyfrif.

"Mae Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig wedi pleidleisio i sicrhau ymchwiliad annibynnol, rhyngwladol i’r llofruddiaethau diweddar. Roedd penderfyniad HRC y Cenhedloedd Unedig hefyd yn galw ar Israel i godi’r blocad ar Gaza ar unwaith. Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru chwarae eu rhan drwy ofyn i Lywodraeth y DU bwyso ar awdurdodau Israel i gydweithio’n llwyr gydag ymchwiliad o’r fath ac i roi terfyn ar y blocad ar fyrder.

“Mae’r blocad yn rhyw fath o gosb unol ac felly’n torri deddf ryngwladol. Nid yw’n targedu grwpiau arfog; mae’n cosbi poblogaeth gyfan Gaza drwy gyfyngu ar y bwyd, y cyflenwadau meddygol, y cyfarpar addysgol a’r deunyddiau adeiladu sy’n cael mynd i mewn i’r wlad."

View latest press releases