Skip to main content
Amnesty International UK
Log in

defnyddia dy lais i fynnu dy hawliau

Mae pobl ifanc yn rym nerthol ar gyfer newid. Ond, yn aml, maen nhw ar y cyrion ac yn cael eu hanwybyddu. Yn dilyn peilot llwyddiannus blwyddyn ddiwethaf, mae Rhwydwaith Hawliau Dynol Plant Amnesty, ‘Defnyddia Dy Lais i Fynnu Dy Hawliau’, yn dychwelyd i annog pobl ifanc i gymryd eu lle yng nghanol y llwyfan i gael eu lleisiau wedi eu clywed a’u gweithredu arnynt ar faterion sydd yn eu heffeithio.

P’un ai os mae'r materion yn cynnwys methiant y llywodraeth ar gynhesu byd eang, tlodi mislif, codiad mewn troseddau cyllyll neu doriadau i gyllid iechyd meddwl. Yn anffodus mae niferoedd o esiamplau o drais yn erbyn hawliau dynol plant yn y Deyrnas Unedig. 

 

 

Nod Cystadleuaeth ‘Defnyddia Dy Lais i Fynnu Dy Hawliau’ yw i bobl ifanc i siarad ag i oedolion i wrando arnynt.

Bydd cyfranogwyr yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ymarferol a sgiliau dadlau. Trwy ddefnyddio erthyglau o’r Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, bydd pobl ifanc ar y rheng flaen yn mynnu bod eu hawliau dynol yn cael eu parchu ac yn cael eu gwarchod. 

 

Rydym yn annog pobl ifanc hyd at 18 oed o Gymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr i gystadlu. Bydd un enillydd o bob categori grŵp oed, (oed 10 ac iau, 11-13, 14-16 ac 17-18). Bydd yr enillwyr yn cael gwahoddiad i sesiynau hyfforddiant a fydd yn cael eu cynnal gan weithwyr proffesiynol ar Hawliau Dynol Plant i gryfhau eu sgiliau dadlau a thrafod. Cynhelir hyn yn y Gynhadledd ar Hawliau Dynol Plan yn Llundain ar yr 20fed o Dachwedd 2020.

Bydd gan cystadleuwyr y rownd derfynol y cyflau i gyflwyno eu dadleuon o flaen aelodau seneddol y Deyrnas Unedig, Comisiynwyr Plant Rhanbarthol a Gweithwyr Proffesiynol Hawliau Dynol.

Bydd gwobrau unigol yn cael eu rhoi ar ôl y cyfarfodydd rhanbarthol. 

 

Bydd angen eich cyflwyniad i drafod y cwestiwn canlynol:

 

“Pa fater dylai cymdeithas heddiw gwneud yn fwy i ddod i’r afael â Hawliau Dynol Plant?”

Ystyriwch yn eich ateb:

  1. Pam bod eich pwnc yn fater hawliau dynol plant?
  2. Pam ei fod yn bwysig?
  3. Pa erthyglau o’r Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn sydd mwyaf perthnasol i'ch pwnc hawliau dynol plant a pham?
  4. Pwy sydd angen gweithredu, a beth sydd angen iddynt wneud?

 

Gallwch naill ai cyflwyno darn ysgrifenedig o 500 gair, neu fideo 2 funud.

 

Bydd y cyflwyniadau yn cael eu marcio ar:

 

  • Sut mae’r gwaith wedi ei drefnu a’i strwythuro 
  • Dadl glir ac argyhoeddiadol trwyddi draw. 
  • Gallu rhagweld dadleuon yn erbyn dy bwynt trwy’r darn. 



 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r gwaith yr 1af o Tachwedd am 11.59yh.

 

Bydd Enillwyr Rhanbarthol yn cael eu dewis erbyn y 14ain o Tachwedd.

 

Bydd pob person ifanc a fydd yn cystadlu yn cael eu hannog i fynychu'r Gynhadledd ar Hawliau Dynol Plant yn Llundain ar yr 20fed o Dachwedd 2020. Yn y gynhadledd bydd gan y cystadleuwyr terfynol y cyfle i fynychu hyfforddiant unigryw i ddatblygu eu sgiliau dadl a thrafod cyn cyfarfod gyda’r Aelodau Seneddol a gweithwyr proffesiynol arall yn 2021.

 

Mae ein telerau ac amodau yn cynnwys ein proses diogelu, rydym hefyd wedi eu cynnwys mewn dogfen unigol.