Skip to main content
Amnesty International UK
Log in

Pôl ICM – nifer brawychus o ferched a gwragedd ifanc yn dioddef gan drais

MAE 40% O BOBL IFANC YN ADNABOD MERCHED SYDD WEDI CAEL EU HANNOG NEU EU GORFODI GAN EU CARIADON I GAEL RHYW – AROLWG NEWYDD

MAE 42% YN ADNABOD MERCHED Y MAE EU CARIADON WEDI’U TARO

Mae Arolwg ICM Hefyd yn Dangos bod y Mwyafrif o Bobl Ifanc yn Ansicr Beth i’w Wneud i Helpu ac Maen Nhw angen Mwy o Gefnogaeth

Mae arolwg ICM newydd a gomisiynwyd gan yr ymgyrch Rhowch Derfyn ar Drais yn erbyn Merched (EVAW) wedi darganfod bod 40% o bobl ifanc yn adnabod merched sydd wedi cael eu hannog neu eu gorfodi i gael rhyw gan eu cariadon a bod 42% o bobl ifanc yn adnabod merched y mae eu cariadon wedi’u taro.
Roedd yr arolwg a gynhaliwyd ymhlith pobl 16-20 oed ar draws y DU gan gynnwys Cymru, hefyd yn darganfod bod 77% o bobl ifanc yn teimlo nad oes ganddyn nhw ddigon o wybodaeth a chefnogaeth i gynghori’r rhai y maen nhw’n gwybod sydd wedi bod yn dioddef gan drais corfforol neu rywiol.

Mae’r ymgyrch EVAW yn galw ar i’r arolwg fod fel anogair i’r llywodraeth i weithredu’n galetach i frwydro yn erbyn trais yn erbyn merched, gan gynnwys darparu mwy o gefnogaeth ac adnoddau i bobl ifanc mewn ysgolion, clybiau, colegau a gweithleoedd.

Roedd dros ddwy ran o dair (68%) o’r merched oedd yn ymateb i’r arolwg yn dweud nad oedd ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth a gwybodaeth i ddelio â thrais yn erbyn merched tra bod mwy na hanner y dynion (51%) yn dweud yr un peth.

Roedd canlyniadau annisgwyl eraill i’r arolwg yn ymwneud ag agwedd goddefgar weithiau pobl ifanc tuag at drais yn erbyn merched. Tra bod mwyafrif llethol yr ymatebwyr yn cydnabod nad oedd trais corfforol yn erbyn cymar yn dderbyniol (mwy na 95%), roedd lleiafrif arwyddocaol o bobl ifanc o’r farn y gellid cymeradwyo trais rhywiol.

Er enghraifft, roedd 27% o ymatebwyr ifanc yn teimlo ei bod yn dderbyniol i fachgen “ddisgwyl cael rhyw gyda merch” os byddai’r ferch wedi bod yn “fflyrtio gydag ef”. Roedd un o bob deuddeg (8%) o bobl ifanc hefyd o’r un farn mewn sefyllfa lle'r oedd bachgen/dyn wedi “gwario llawer o arian ac amser” ar y ferch/ddynes. Credai 11% fod rhyw dan orfodaeth yn dderbyniol os byddai’r rhyw wedi’i ddechrau a bod y cymar gwrywaidd wedi cael ei “gyffroi”. Yn y mwyafrif o achosion, roedd y syniadau hyn yn amlwg iawn yn rhai “gwrywaidd” gyda’r arolwg yn dangos gwahaniaeth sylweddol rhwng barn ymatebwyr gwrywaidd a rhai benywaidd.

Mae’r syniadau hyn yn adlewyrchu’r rhai a ddatgelwyd ym mhôl ICM 2005 o oedolion Prydeinig. Yn hwn dangoswyd bod tua thrydedd ran o bobl yn credu y gallai dynes fod yn gyfrifol am gael ei threisio mewn rhai amgylchiadau, fel fflyrtio neu fod yn feddw.

Dywedodd Cathy Owens, Cyfarwyddwr Rhaglenni Amnest Rhyngwladol Cymru:

“Mae’n frawychus bod cymaint o ferched ifanc wedi cael eu taro gan eu cariadon neu eu rhoi o dan bwysau i gael rhyw. Os ydym am dorri’r cylch o drais sy’n gweld hanner holl ferched Cymru’n dioddef gan ryw fath o drais, yna mae’n rhaid i ni ddechrau gyda phobl ifanc a’u hagweddau tuag at drais yn erbyn merched.”

“Byddwn yn dadlau bod yn rhaid i Lywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth y DU weithio gyda’i gilydd i frwydro yn erbyn y lefelau endemig o drais yn erbyn merched a gwragedd yng Nghymru. “

“Rhaid i ni ddechrau herio agweddau pobl tuag at drais yn erbyn merched ynghyd â darparu gwell gwasanaethau i’r merched a’r gwragedd hynny sy’n dioddef gan drais. Nid oedd y mwyafrif o’r bobl ifanc yn gwybod lle i fynd i gael cyngor, felly mae’n rhaid inni ddarganfod modd o drafod y materion hyn mewn ysgolion.”

DIWEDD

I gael mwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â Cathy Owens ar 07738 718638

View latest press releases