Masnachu pobl yng nghymru: Galw am ymateb cryfach ar draws Cymru

•    Adroddiad newydd: mesurau ‘anaddas i bwrpas’ yn y DU yn erbyn masnachu pobl a thorri cyfraith ryngwladol – adroddiad newydd
•    Mae masnachu pobl yng Nghymru’n gofyn am ffocws Cymru gyfan
•    Gwefan newydd yn darparu ffocws ar gyfer ymdrin â masnachu pobl yng Nghymru

Heddiw (dydd Mercher) bydd ymgyrchwyr yng Nghymru’n lansio adroddiad newydd ar fasnachu pobl gan ddangos bod mesurau newydd gwrth-fasnachu pobl Llywodraeth y DU yn ‘anaddas i bwrpas’ a bod Llywodraeth y DU yn torri ei goblygiadau o fewn y Confensiwn Ewropeaidd yn erbyn Masnachu Pobl (1). Byddan nhw hefyd yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi arweiniad cryfach yng Nghymru gyfan wrth fynd I’r afael â masnachu pobl a sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu diogelu.

•    Y Math Anghywir o Ddioddefwyr
Roedd yr adroddiad, yr astudiaeth eang gyntaf o fesurau gwrth-fasnachu pobl y llywodraeth ers iddyn nhw lansio 14 mis yn ôl, yn darganfod bod fflaglong y Llywodraeth sef ‘Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol’ yn ‘ddiffygiol’ ac efallai’n wahaniaethol a’i bod yn cael ei gweithredu gan staff Asiantaeth Ffiniau’r DU nad oedd wedi cael ‘hyfforddiant digonol’. Roedd y rhain yn “rhoi mwy o bwyslais ar statws mewnfudo’r personau y tybir eu bod wedi’u masnachu, yn hytrach na’r drosedd honedig yn eu herbyn”.
Roedd adroddiad 167-tudalen, “Wrong kind of victim?”, y Grŵp Monitro Gwrth-Fasnachu Pobl, clymblaid sy’n cynnwys Gwrth-Gaethwasiaeth Rhyngwladol, Amnest Rhyngwladol y DU ac ECPAT (3) yn adolygu 390 achos unigol ynghyd â data o Ganolfan Masnachu Pobl y DU a ffigyrau a gafwyd o geisiadau rhyddid gwybodaeth. Darganfu wahaniaethau amlwg wrth lwyddo i ganfod dioddefwyr masnachu pobl. Roedd hyn yn arwain at ofnau bod swyddogion yn rhy bryderus am faterion mewnfudo yn hytrach nag yn cynorthwyo dioddefwyr troseddau trawmatig fel ymelwa rhywiol, caethiwo a llafur gorfodol.
Dywed ymgyrchwyr fod tystiolaeth amlwg bod troseddwyr hyd yn oed yn rheoli eu dioddefwyr drwy rybuddio y byddan nhw’n cael eu gweld fel “mewnfudwyr anghyfreithlon” nid dioddefwyr ac y gallen nhw gael eu cadw a’u hanfon allan o’r wlad neu hyd yn oed eu carcharu.

Darganfu’r ymchwilwyr fod problem fawr yng Nghymru gyda diffyg ymwybyddiaeth a methu â chanfod. Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol Cymru gyfan er mwyn gwneud gwell penderfyniadau ar lefel leol yng Nghymru.

•    Diweddariad ar Fasnachu Pobl yng Nghymru
Roedd Amnest Rhyngwladol hefyd yn cyhoeddi diweddariad byr ar fasnachu pobl yng Nghymru gan nodi bod masnachu pobl yn dal i fod yn rhan o’r fasnach ryw yng Nghymru er ei bod yn drosedd anghyfreithiol nad sy’n cael ei datgelu’n llawn ond sy’n cael ei dioddef.

Gwelwyd cynnydd mawr dros y tair blynedd ddiwethaf: mae heddluoedd wedi datblygu dulliau hyfforddi ac wedi ymestyn eu cysylltiad gyda’r diwydiant rhyw ac asiantaethau eraill i geisio mynd i’r afael â masnachu pobl.  Gwelwyd gwelliant hefyd yn narpariaeth gwasanaethau i ddioddefwyr.

Fodd bynnag, mae’r patrwm yn dal yn gymysg ar draws Cymru, gyda gwahaniaethau go iawn yn y modd y mae heddluoedd yn mynd I’r afael â’r mater ac yn y modd y mae gwasanaethau lleol yn cael eu darparu.

•    Gwefan Newydd yn darparu Ffocws yng Nghymru
Mae’r achlysur ym Mae Caerdydd hefyd yn cynnwys lansio gwefan newydd a sefydlwyd gan Joyce Watson AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Fasnachu Merched a Phlant yng Nghymru. Bydd y wefan yn ganolbwynt gwybodaeth ar fasnachu pobl yng Nghymru ac yn gyfle i rannu arfer da. Mae’r wefan yn http://humantraffickinginwales.co.uk/

Dywedodd Cathy Owens, Cyfarwyddwr Rhaglenni Amnest Rhyngwladol yng Nghymru:
“Mae’n amlwg nad yw’r broses a sefydlwyd ar ôl i Lywodraeth y DU arwyddo i’r confensiwn gwrth-fasnachu, wedi gweithio’n ymarferol yng Nghymru ac ychydig iawn o’r rhai sy’n gweithio ar y llinell flaen sydd wedi’u hyfforddi’n ddigonol i fynd i’r afael â’r drosedd echrydus hon.

“Mae’n amlwg nad yw’r system adnabod yn addas i bwrpas ac mae’n rhaid i Lywodraeth y Cynulliad gymryd arweiniad cryf yn y maes hwn er mwyn dod â’r heddlu, y GIG, llywodraeth leol a’r trydydd sector at ei gilydd i ddiogelu pobl sydd mewn perygl yng Nghymru, yn ddigonol.”

Dywedodd Joyce Watson AC:
“Bu rhywfaint o gynnydd go iawn yng Nghymru ers i ni ddechrau taro’r drymiau er mwyn amddiffyn dioddefwyr masnachu pobl yng Nghymru ond mae’r adroddiadau hyn yn dangos nad ydyn ni eto wedi sicrhau system sy’n gwasanaethu dioddefwyr yng Nghymru.

“Gobeithio y bydd y wefan rydw i’n ei lansio heddiw yn helpu drwy rannu gwybodaeth ac arfer gorau. Galwaf  ar Lywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod asiantaethau’n gweithio gyda’i gilydd i ddelio â’r drosedd echrydus hon.”

DIWEDD

•    Cynhelir y lansiad yn Bar One, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd am 12.30 ar 16 Mehefin

•    I gael mwy o wybodaeth, i dderbyn adroddiadau sydd dan waharddiad, i drefnu cyfweliadau neu i gael mynediad i ffilmiau ar gyfer cyfweliadau gyda un o droseddwyr masnachu pobl neu i gael lluniau, gellir cysylltu â: Cathy Owens, Amnest Rhyngwladol, 02920 786415, 07738718638
 

Nodiadau

(1) Confensiwn Ewrop yn erbyn Masnachu Pobl a fabwysiadwyd gan y DU ym mis Ebrill 2009. Y confensiwn yw’r cytundeb rhyngwladol cyntaf sy’n gorfodi taleithiau a gwladwriaethau i gael y safonau isaf i gynorthwyo pobl sydd wedi’u masnachu a diogelu eu hawliau.
 (2) Y Grŵp Monitro Gwrth-Fasnachu Pobl sy’n cynnwys naw sefydliad. Sefydlwyd hwn i fonitro a ydy’r DU yn cyflawni ei goblygiadau yn unol â Chonfensiwn Cyngor Ewrop yn erbyn Masnachu Pobl. Mae’n cynnwys: Amnest Rhyngwladol DU, Gwrth-Gaethwasiaeth Rhyngwladol, ECPAT UK, Sefydliad Helen Bamber, Cymdeithas Ymarferwyr y Gyfraith ar Fewnfudo (ILPA), Prosiect POPPY Kalayaan, TARA ac UNICEF DU. a hefyd mae’r Grŵp Monitro’n gweithio’n agos gyda’r Prosiect Cyfreithiol Gwrth-Fasnachu Pobl (ATLeP).

View latest press releases