Skip to main content
Amnesty International UK
Log in

DU: Gwleidyddiaeth a llenyddiaeth yn uno i lansio ymgyrch Amnest ar ryddid mynegiant mewn ysgol yn abertawe

Gweinidog a Bardd y Brenin ymhlith y rhai sy’n cefnogi’r pecyn addysg

Daeth mawrion llenyddiaeth a gwleidyddiaeth at ei gilydd heddiw (10 Tachwedd) yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt yn Abertawe i lansio hybu rhyddid mynegiant Amnest Rhyngwladol ar draws y DU.

Roedd Edwina Hart, Gweinidog dros Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn y Senedd yng Nghymru; Bardd Plant y Brenin Cymru, Eurig Salisbury; Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru; a David Evans, Ysgrifennydd NUT Cymru yno i hybu’r pecyn addysg dwyieithog newydd Speak Free / Siarad yn Agored.

Mae’r pecyn yn rhoi’r mater o ryddid mynegiant mewn ffocws clir ac mae’n caniatáu i bobl ifanc feddwl am ymagweddau creadigol tuag at ymgyrchu.  Dosbarthwyd i gannoedd o ysgolion ar draws y DU fel rhan o weithgareddau, adnoddau a digwyddiadau rhyddid mynegiant Amnest dros dymor y gaeaf.

Dywedodd Edwina Hart AC yn y lansiad: “Rydw i’n falch o gael y cyfle i fynychu lansiad Speak Free/Siarad yn Agored Amnest Rhyngwladol.

Aeth ymlaen i bwysleisio pa mor bwysig yw sefyll yn gadarn dros unigolion sy’n cael eu herlyn oherwydd eu cred.

Dywedodd: “Yn y byd ehangach, lle gall rhywun gael ei garcharu, ei arteithio neu ei ddienyddio oherwydd ei ddaliadau, faint yn waeth yw hi ddifaru nad oeddem wedi ynganu’r geiriau y gallen ni fod wedi’u dweud, ond na wnaethom.”
Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones: “Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn teimlo’n rhydd i fynegi eu hunain gan wybod y bydd eraill yn gwrando.

“Mae llais pob person ifanc yn bwysig a thrwy wrando ar eu lleisiau egnïol, gallwn ddatblygu i fod yn wlad fwy egnïol a chreadigol.”

Ysgrifennodd Eurig Salisbury hefyd gerdd ar gyfer yr achlysur.

“Cynnau cannwyll cyn cynnen – y mae rhai,
Ymroi gydag awen
Ac ymladd gydag amlen,
Dileu nos â dalen wen.”

Mae gan yr ysgol ei hun record gref o gefnogi hawliau dynol ac roedd yn rhan bwysig o Neges Ewyllys Da’r Urdd.

Ar ôl yr areithiau, cafwyd drama fer gan ddosbarth Blwyddyn 10 yr ysgol.  Roedd y ddrama’n edrych ar waith Amnest dros y 50 mlynedd ddiwethaf gan amlygu achos llawer o bobl oedd wedi siarad yn erbyn  hawliau dynol yn eu gwlad.

Ychwanegodd Nora Jensen, Pennaeth Blwyddyn 10 yr ysgol: “Mae’n anodd clywed am ddioddefaint pobl ond byddai’n llwfr ceisio ei anwybyddu.  Po fwyaf fydd yr ymateb a pho fwyaf niferus y bobl y byddwn ni’n ymgysylltu â nhw, bydd yr help a roddwn yn fwy a bydd y budd i’r rhai sy’n dioddef yn fwy.”

Darllenodd Hafina John, 15, ran Maria Gillespie yn y ddrama. Roedd Maria, merch ddewr o Uruguay, yr un oed â Hafina pan gafodd ei harestio a’i harteithio gan awdurdodau’r wlad.  Dywedodd Hafina: “Cefais sioc pan glywais yr hyn oedd wedi digwydd i Maria oherwydd ei chred.  Mae pethau yn gudd.  Rhaid i ni greu mwy o ymwybyddiaeth a chael mwy o bobl i helpu.”

Ychwanegodd Harry Lawrence, swyddog 15 oed yn yr ysgol: “Mae’n sioc fawr i mi glywed am y cam-drin hawliau dynol sy’n digwydd yn y byd.  Ni yw’r rhai ddylai wneud gwahaniaeth, heddiw nid yfory.”

View latest press releases