Skip to main content
Amnesty International UK
Log in

Cymru: Nid yw dynion go iawn yn taro merched: dynion sy’n aelodau o’r cynulliad yn sefyll i atal trais yn erbyn merched

Ar 22 Tachwedd, mae Amnest Rhyngwladol ac Unsain yn dod â dynion sy’n aelodau o’r Cynulliad at ei gilydd i fynegi eu cefnogaeth i’r ymgyrch i roi terfyn ar drais yn erbyn merched. Wrth sefyll ar risiau’r Senedd, gofynnir i bob un wisgo rhuban gwyn fel symbol o’r ymgyrch rhyngwladol lle mae dynion yn gweithio i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn merched.

Gall trais yn erbyn merched fod ar sawl ffurf ac mae’n cael effaith treiddiol, niweidiol ar hawliau dynol merched yn yr holl gymunedau. Dengys arolygon y bydd hanner yr holl ferched yn y DU yn dioddef gan ryw fath o drais yn ystod eu hoes. Pa un a fydd hyn yn drais domestig, drais rhywiol, llech-ddilyn neu fathau eraill o drais, mae merched ar draws Cymru’n dioddef yn ddyddiol.

Dywed Cathy Owens, Cyfarwyddwraig Rhaglenni Amnest Rhyngwladol Cymru:

“Mae’r nifer brawychus o drais domestig yng Nghymru yn rhywbeth y mae’n rhaid i ddynion ddod i delerau ag ef a gweithredu yn ei erbyn. Mae’n bryd i ddynion sefyll i fyny a dweud – dyna ddigon – nid yw dynion go iawn yn taro merched.”

“Yr hyn sy’n achosi pryder yw canlyniadau pôl ICM a gyhoeddwyd ar ein rhan yr wythnos hon. Mae’n dangos bod nifer o bobl ifanc 16-20 oed yng Nghymru yn dioddef gan drais gan eu cariadon.”

“Dyna pam y mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth yn awr – oherwydd nid yw’r patrwm yn newid ac ni fydd yn newid hyd nes i ddynion achosi’r newid hwnnw. Oherwydd hyn, rydw i’n falch o gael ymateb mor rhagorol gan yr holl ddynion sy’n Aelodau o’r Cynulliad.”

“Mae gwisgo rhuban gwyn yn dangos bod dyn yn addo peidio byth â chyflawni, cymeradwyo na bod yn ddistaw am drais yn erbyn merched. Mae’n rhaid i ni annog dynion i fynegi eu barn pan fydd cyfeillion gwrywaidd iddyn nhw a pherthnasau gwrywaidd yn sarhau neu’n ymosod ar ferched. Dylai fod yn annerbyniol, yn hytrach na’r norm. Wedi’r cyfan - eu mamau, cymheiriaid, chwiorydd a merched hwy sy’n cael eu niweidio gan drais.”

View latest press releases