Skip to main content
Amnesty International UK
Log in

Cymru: Meddwl eich bod chi’n ddyn go iawn?

Mae Amnest Rhyngwladol Cymru a Chymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (Cymru) yn herio ‘dynion go iawn’ o Gymru gyfan i chwarae rhan yn yr ymgyrch i atal trais yn erbyn menywod. Bydd y ddau sefydliad yn cynnal cynhadledd sy’n torri tir newydd “Cynnwys Dynion”. Sy’n cynnwys siaradwyr gwadd sydd ag enw rhyngwladol megis Michael Kaufman, sylfaenydd ymgyrch y rhuban wen yng Nghanada a Monira Rahman, o sefydliad goroeswyr Asid, Bangladesh. Bydd y gynhadledd yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ar Ebrill 5ed a disgwylir i’r llefydd gael eu cymryd yn gyflym.

Meddai Eleanor White, Cyfarwyddydd Rhaglen Amnest Rhyngwladol Cymru ‘Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath yng Nghymru a’r gobaith yw y bydd yn ddechrau ar newid mewn agweddau. Fe wnaeth Amnest gynnal ymchwil a ddangosodd fod llawer o ddynion, yn benodol yn y grwp oedran 16 – 35, yn casáu’r syniad o drais yn erbyn menywod ond yn teimlo heb rym i’w atal. Bydd y gynhadledd yn sail i Siartr Gweithredu a fydd yn gallu hysbysu polisi ar arfer y dyfodol yn y maes hwn dros sectorau gwahanol ac ymhob cymuned. Roeddem hefyd am ddangos i weddill y byd bod llawer o ddynion yng Nghymru sy’n barod i sefyll i fyny a dweud na fyddant yn goddef trais yn erbyn menywod ar ba ffurf bynnag.’

Er gwaethaf degawdau o ymgyrchu yn erbyn trais yn erbyn menywod, mae’r ystadegau’n dal i fod yn ysgytwol. Mae dau berson yng Nghymru a Lloegr yn cael eu lladd bob wythnos gan bartner neu gyn-bartner a bydd cymaint â thraean o fenywod y wlad yn dioddef rhyw ffurf ar drais yn ystod eu bywyd. Mae Amnest Rhyngwladol Cymru a Chymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (Cymru) credu y ceir newid parhaus dim ond os bydd dynion a menywod yn chwarae rhan yn yr ymgyrch i atal trais yn erbyn menywod.

Meddai Penny Lloyd o Gymdeithas y Gweithwyr Cymdeithasol yng Nghymru: ‘Rydym yn disgwyl i’r gynhadledd hon fod o ddiddordeb i ddynion o bob math, nid yn unig gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr iechyd proffesiynol, ond y rheini sy’n dylanwadu ar newid yn eu maes; undebwyr llafur, athrawon, heddlu, ynadon a barnwyr, gwleidyddion, staff adnoddau dynol a phobl sy’n gweithio yn y cyfryngau, diwylliant a chwaraeon. Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan ddynion sy’n byw mewn diwylliant o drais ac sydd am newid eu hunain.’

View latest press releases