Skip to main content
Amnesty International UK
Log in

Cymru: Gwasanaethau ysgolion - allweddi rhydd

Eleni, mae Amnest Cenedlaethol Cymru’n dathlu Wythnos Diogelu Dynolryw ar 14-20 Hydref ac rydym yn gofyn i ysgolion yng Nghymru gynnal gwasanaethau arbennig i ganolbwyntio ar hawliau dynol.

Mae’r gwasanaeth ysbrydoledig o dan y teitl Allweddi Rhyddid yn canolbwyntio ar erlyn a cham garcharu pobl gyffredin ac yn rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan a dangos eu cefnogaeth i’r rhai sy’n dioddef ar draws y byd.

Mae Allweddi Rhyddid yn cynnwys cyflwyniad ar Amnest a sgript wedi’i baratoi a’i lunio gan ddisgyblion i gynrychioli lleisiau’r bobl hynny y mae eu hawliau wedi’u gwrthod iddynt. Gofynnir i’r disgyblion ddod â hen allweddi gyda hwy i’r gwasanaethau fel symbol o bobl wedi’u cloi oherwydd bod eu hawliau dynol sylfaenol wedi’u gwrthod iddyn nhw. Bydd Amnest Rhyngwladol yn anfon yr allweddi at Lywodraethau’r bobl a enwir yn y Gwasanaeth.

Am y tro cyntaf, mae Amnest Rhyngwladol wedi paratoi fersiwn Cymraeg i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru’n gallu cymryd rhan.

Dywed Cathy Owens, Cyfarwyddwr Rhaglenni Amnest Rhyngwladol:

“Mae’n ffordd dda i athrawon gyflwyno materion hawliau dynol i mewn i ysgolion ac mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc sefyll i fyny dros y rhai heb lais. Bydd yn ein hatgoffa nad oes gan bobl ar draws y byd y rhyddid y byddwn ni’n ei gymryd yn ganiataol.”

“Y llynedd, roedd dros 1000 o ysgolion ar draws y DU yn cymryd rhan. Eleni, hoffwn weld cymaint o ysgolion ag sy’n bosibl yng Nghymru’n cymryd rhan er mwyn i ni allu dangos faint o ddiddordeb sydd gan ddisgyblion Cymru mewn materion rhyngwladol.”

“Cawsom ymateb gwych gan athrawon y buom ni’n siarad â nhw am hyn ac mae NUT Cymru ac UCAC yn awyddus i’n helpu i hybu’r cysyniad yng Nghymru.”

  • Darganfyddwch fwy am Wythnos Diogelu Dynolryw
  • Archebwch eich pecyn gwasanaeth am ddim: +44 (0)1788 54 55 53. Cod archebu Saesneg: ED092, Cod archebu Cymraeg: ED094
  • I gael mwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â Cathy Owens yn Amnest Rhyngwladol Cymru ar + 44 (0)2920 375610 neu +44 (0)7738 718638

View latest press releases