Skip to main content
Amnesty International UK
Log in

Cymru: Gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Llandaff er mwyn cefnogi’r Ymgyrch i Atal Trais yn Erbyn Menywod

Ddydd Gwener 25 Tachwedd 2005, cafwyd gwasanaeth arbennig yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, er mwyn cefnogi’r Ymgyrch i Atal Trais yn Erbyn Menywod. Fe fu’r noson cynnau canhwyllau yn gyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Amnest Rhyngwladol mewn cydweithrediad â Sefydliadau Merched eraill. Mae gwylnosau golau cannwyll i’w cynnal ledled Cymru gan aelodau, er enghraifft, Sefydliad y Merched, Mewn Cymru ac Aelodau Cynulliad a Seneddol. Fe fu’r noson yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yn ddechrau ar 16 diwrnod o weithredu i Atal Trais yn Erbyn Menywod.

Fe’i mynychwyd gan y Prif Weinidog, Rhodri Morgan; Jane Hutt, Trefnydd y Cynulliad ac Aelod y Cynulliad dros Fro Morgannwg. Hefyd, fe fynychodd Eleanor White, Cyfarwyddwr Amnest Rhyngwladol Cymru; Joyce Watson o Sefydliad y Menywod ac Archesgob Cymru, y Gwir Barchedig Ddr Barry Morgan. Cafwyd gweddi gan Eleanor White a darllenwyd cerddi gan gynrychiolwyr crefyddau amrywiol. At ei gilydd, fe fu’r noson yn ddechrau perffaith i ymgyrch a fydd, gobeithiwn, yn llwyddiant ysgubol.

View latest press releases