Cymru: Caerdydd macio Diwrnod Hawliau Dynol
Ddydd Sul, 11 Rhagfyr 2005 fe wnaeth Amnest Rhyngwladol Cymru gydweithio â grŵp lleol Amnest yng Nghaerdydd er mwyn marcio Diwrnod Hawliau Dynol (10 Rhagfyr). Am 2.30 fe wnaeth gwirfoddolwyr gyfarfod y tu allan i Boots ar Heol y Frenhines â chanhwyllau ac arwyddion “Diogelwch Ddynolryw”.
Fe gafodd y canhwyllau eu cynnai yn symbol o ddiwedd yr 16 diwrnod o Weithredu. Dyma achos y mae Amnest Rhyngwladol wedi bod yn ei gefnogi dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Roedd yr wylnos olau cannwyll yn gyfle i gefnogwyr ystyried yr ymgyrch i Atal Trais yn Erbyn Menywod.
Fe wnaeth aelodau tîm Amnest Rhyngwladol Cymru roi eu gwefusau’n sownd â thâp fel symbol o’r tawelwch gorfodol y bydd carcharorion cydwybod yn ei ddioddef. Fe wnaeth gwirfoddolwyr eraill rannu taflenni a gwybodaeth am ymgyrchoedd Amnest International.
Bu’r digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac edrychwn ymlaen at gynnal rhagor o ddigwyddiadau i brocio’r meddwl ac i bwysleisio camdriniaethau ar hawliau dynol yn y dyfodol. Daliwch ati i ymweld â’r wefan am ragor o wybodaeth.