Skip to main content
Amnesty International UK
Log in

Cymru: Bae Guantánamo Bay – Aelodau Amnest yng Nghymru yn gwrthdystio tu allan i swyddfa Llysgenhaeth yr Unol Daleithiau

Lleoliad: Swyddfa Llysgennad yr UD, Llys y Deml, Ffordd y Gadeirlan, Caerdydd
Pryd: 10.30am, Dydd Iau, 11 Ionawr 2007. Llythyr i’w gyflwyno am 11.00am

Ar ddiwrnod nodi pumed ‘pen blwydd’ (11 Ionawr) cludo carcharorion cyntaf ‘brwydr yn erbyn ofn’ i garchar militaraidd ym Mae Guantánamo yng Nghiwba, cyhoeddodd Amnest Rhyngwladol ddatganiad newydd yn condemnio’r gwersyll.

Dywed Cathy Owens, Cyfarwyddwraig Rhaglenni Amnest Rhyngwladol:

“Pum mlynedd yn ôl, dechreuwyd ar y cludo anfad o ddynion mewn siwtiau oren mewn cadwynau, gyda mygydau dros eu llygaid. Ers hynny, mae’r carcharorion wedi bod yn dioddef mewn amgylchiadau gresynus a lefelau o sarhad sydd y tu hwnt i unrhyw ddeall.”

"Mae’r adroddiadau am artaith helaeth, reolaidd a pharhaus yn ofnadwy. Mae’r adroddiadau hyn wedi difwyno enw drwg yr UD ymhellach ac mae Amnest Rhyngwladol wedi’i wrthod o hyd rhag archwilio’r gwersyll yn ystyrlon.

“Yn awr, hanner degawd yn ddiweddarach a dim un person wedi’i gael yn euog o unrhyw drosedd, mae’n bryd i’r UD gyfaddef fod ei arbrawf peryglus gydag egwyddorion deddfwriaeth ryngwladol wedi methu ac wedi methu’n druenus. Mae Bae Guantanamo yn wawd ar gyfiawnder."

“Galwn am gau Bae Guantánamo ar unwaith ac ar i holl ganolfannau cadw ‘brwydr yn erbyn ofn’ gael eu nodi a’u cau. Hefyd, dylai’r carcharorion gael eu treialu’n gywir o flaen llysoedd teg neu eu rhyddhau i wledydd diogel.”

Mae Amnest Rhyngwladol yn cynnal gwrthdystiad y tu allan i Swyddfa Llysgennad yr UD yng Nghaerdydd ar 11 Ionawr. Bydd pobl mewn siwtiau oren tebyg i Guantánamo yn penlinio yn yr un modd ag a welir mewn nifer o luniau o garcharorion sy’n cael eu cadw yn y gwersyll.

Mae’r gwrthdystiad hwn, ynghyd â digwyddiadau yn Llundain, Caeredin a Belfast, yn rhan o gyfres o wrthdystiadau Amnest Rhyngwladol yn erbyn Guantánamo ar draws y byd ar 11 Ionawr gan gynnwys gwrthdystiadau yn Efrog Newydd, Tokyo, Rhufain, Madrid ac Israel.

View latest press releases