Skip to main content
Amnesty International UK
Log in

Cymru: Amnest Rhyngwladol yn cyflwyno actifydd hawliau dynol o China i'r Cynulliad

Bydd cyfarfod heddiw (2 Hydref) yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn clywed stori ddirdynnol actifydd iawnderau dynol flaenllaw o Tsieina. Bydd Rebiya Kadeer, dynes fusnes a chynrychiolydd y lleiafrif Uighur yng Ngogledd Orllewin Tsieina yn adrodd ei phrofiad o ormes ac aflonyddu dan ddwylo'r awdurdodau Tsieineaidd.

Dywed Alun Davies AC:

"Edrychaf ymlaen at yr hyn y bydd Rebiya Kadeer yn gallu ei ddweud wrthym am y sefyllfa iawnderau dynol yn Tsieina ac am brofiad beunyddiol pobl Uighur, mwyafrif Mwslimaidd mewn ardal o Tsieina sy'n ffinio â Chanol Ewrop.

"Dylid llongyfarch Llywodraeth y Cynulliad ar ei hymdrechion i gryfhau'r cysylltiadau diwylliannol a'r rhai busnes gyda Tsieina - ond camwri fyddai anwybyddu'r anghyfiawnderau difrifol sy'n digwydd yn Tsieina. Rhaid i ni beidio â bod yn ddistaw wrth i ni glywed adroddiadau manwl am y defnydd eang o'r gosb eithaf, poenydio a chyfyngiadau llym ar yr hawl i fynegi barn.

"O fewn llai na 12 mis cyn y Gêmau Olympaidd yn Beijing, mae'n rhaid i ni wneud hynny allwn ni i sicrhau mai etifeddiaeth y gêmau fydd - gwell hanes i iawnderau dynol yn Tsieina; er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni glywed gan y bobl sydd eu hunain â phrofiad o'r sefyllfa yno."

Dywedodd Cathy Owens, Cyfarwyddwr Rhaglen Amnest Cymru ar ran Amnest Rhyngwladol:

"Mae erledigaeth y diwylliant Uighur yn parhau yn Tsieina. Caewyd Mosgiau, cadwyd clerigwyr yn y ddalfa, gwaharddwyd llyfrau Uighur a charcharwyd eu hawduron. Cyfyngwyd yn llym ar hawliau mynegiant a chymdeithasu ac fe garcharwyd miloedd ledled y rhanbarth"

"Treuliodd Rebiya ei hun bum mlynedd mewn carchar, dwy ohonyn nhw mewn cell unig, am y drosedd o "rannu gwybodaeth gyfrinachol gydag estronwyr", yn dilyn prawf lle ni chaniatawyd iddi gyflwyno amddiffyniad. Mewn gwirionedd, yr oedd hi wedi gyrru rhai toriadau papur newydd at ei gŵr yn yr UDA. Ers iddi gael ei rhyddhau o ganlyniad i bwysau rhyngwladol, mae ei phlant wedi dioddef gan drais ac wedi'u carcharu."

"Rwyf wrth fy modd bod Rebiya yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf ac yn edrych ymlaen at glywed ei barn ar sut y gallwn ni, ar drothwy'r Gêmau Olympaidd, helpu i sicrhau gwell iawnderau dynol i bobl Tsieina. Un o'r dulliau gorau o ysgogi newid cadarnhaol yn Tsieina yw trwy bwysau diplomataidd o dramor, a thrwy annog gwleidyddion i fynegi eu pryderon wrth lywodraeth Tsieina."

Diwedd

Briffio i'r wasg:
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Cathy Owens ar 07738 718638 neu cathy.owens@amnesty.org.uk

View latest press releases