Skip to main content
Amnesty International UK
Log in

Cymru: ‘The Secret Policeman’s Ball’yn dod i Gymru

Theatr Sherman i gynnal Cymrucast ‘The Secret Policeman's Ball’ gyda Rhod Gilbert.

Cyhoeddodd Amnest Rhyngwladol heddiw y bydd ‘The Secret Policeman's Ball’ yn cael ei weld am y tro cyntaf yng Nghymru. Cynhelir y digwyddiad comedi chwedlonol sy’n codi arian i Amnest ar 14 Hydref yn Neuadd Albert gydag actorion yn cynnwys Eddie Izzard, Jennifer Saunders, Russell Brand a’r Mighty Boosh. Ar yr un noson, gall y dilynwyr wylio’r ‘cinecast’ – neu Cymrucast – yn fyw drwy gyswllt lloeren i Theatr Sherman.

Hefyd ar y llwyfan yn Theatr Sherman, bydd Rhod Gilbert yn diddanu’r gynulleidfa gyda set arbennig – popeth yn enw hawliau dynol.

Wedi’i ail greu a’i ail lunio ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, mae ‘The Secret Policeman’s Ball’ yn lansio Wythnos Diogelu Dynolryw Amnest Rhyngwladol. Hefyd yn Neuadd Albert bydd Al Murray, Chevy Chase, Jimmy Fallon, Jon Culshaw, Meera Syal, Omid Djalili, Jessica Stevenson, Ronni Ancona, Seth Green, Richard E Grant, Andrew Maxwell, cymeriadau’r Gorillaz, a’r Magic Numbers mewn noson o gydweithio fel na welwyd erioed o’r blaen.

Ynghyd â’r cymysgedd traddodiadol o gomedi sefyllfa a sgetshis, bydd Amnest Rhyngwladol yn ychwanegu nifer o gynhwysion newydd gan gynnwys animeiddio gyda Patrick Stewart, Joanna Lumley, Jimmy Carr, Tara Fitzgerald, Jo Brand a Brian Cox.

Dywed Cathy Owens, Cyfarwyddwraig Rhaglenni Amnest Rhyngwladol Cymru:

"Mae mor gyffrous gallu dod â’r ‘Ball’ i Gymru – er efallai mai drwy loeren ond bydd ar sgrin fawr. Fel arfer, byddai unrhyw un y tu allan i Lundain yn colli digwyddiad cyffrous fel hwn ond yn awr gall dilynwyr a chefnogwyr yng Nghymru ddod i Theatr Sherman a chefnogi rhai o’r bobl sydd heb lais o gwmpas y byd. Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach ac rydw i’n hynod o falch y byddwn yn gallu dathlu’r digwyddiad fel hyn.”

"Oherwydd mai hwn yw’r tro cyntaf i ni wneud hyn, mae’r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn wych. Mae Rhod Gilbert wedi newid ei gynlluniau er mwyn dod i Gaerdydd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad ac rydw i wedi cael pobl yn barod yn ceisio fy llwgrwobrwyo i gael tocynnau cyn i ni ddechrau eu gwerthu.”

Dywedodd Jimmy Carr, “Rydw i’n cefnogi Amnest Rhyngwladol oherwydd pwy ŵyr pryd fydda i’n cael fy nghadwyno i reiddiadur a’m curo gan bastwn rwber. Credaf mai Dydd Iau, am 4.30, yn Soho ond bydd yn rhaid i mi edrych ar fy nyddiadur.”

· I archebu tocyn am £10, ffoniwch swyddfa docynnau’r Sherman: +44 (0)29 2064 6900

· Mynnwch wybod mwy am 'The Secret Policeman's Ball'

View latest press releases