Skip to main content
Amnesty International UK
Log in

Arolwg newydd yn dangos lefel frawychus o drais yn y cartref ymhlith myfyrwyr cymru - yn cahdarnhau barn pobl ynglyn ag ymosodiad rhywuiol

  • Mae 64% o fyfyrwyr yn adnabod menywod sydd wedi cael eu bwrw gan eu cariad neu gymar
  • Mae 41% yn adnabod menywod sydd wedi cael eu gorfodi neu eu gosod dan bywsedd i gael rhyw gan eu cariad neu gymar
  • Mae 34% yn credu fod dynes naill ai’n gwbl gyfrifol neu’n rhannol gyfrifol am gael ei threisio neu ddioddef ymosodiad rhywiol os ydy hi wedi meddwi

Mae Amnesty Rhyngwladol ac UCMC heddiw (*diwrnod*) wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn ogystal â Phrifysgolion a Cholegau yng Nghymru, i fynd i’r afael â thrais yn erbyn myfyrwragedd, yn dilyn cyhoeddi arolwg newydd sy’n dangos cryn lawer o gamdriniaeth yn y cartref a lefelau uchel o oddefgarwch tuag at ymosodiad rhywiol.

Mae’r arolwg, sy’n cynnwys dros 700 o fyfyrwyr ar gampysau ledled Cymru, a lawnsiwyd heddiw yn y Senedd gan Nerys Evans AC, yn dangos nad yw hanner y myfyrwyr a holwyd yn gwybod pa gyngor i’w roddi i ddynes sydd wedi dioddef camdriniaeth yn y cartref; nid oes gan 46% ddigon o wybodaeth a chefnogaeth i ymdrin â’r broblem, ac mae 65% yn credu y dylai fod yno wasanaethau ar y campws i helpu myfyrwyr sydd wedi dioddef trais.

‘Roedd yr arolwg hefyd yn dwyn sylw at lefel frawychus o oddefgarwch ymhlith myfyrwyr tuag at drais rhywiol, tebyg i’r lefel ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol. Cred traean o fyfyrwyr fod dynes yn gyfrifol i raddau am gael ei threisio neu ddioddef ymosodioad rhywiol os ydy hi wedi meddwi, neu os ydy hi wedi bod yn fflyrtio. Mae chwarter y myfyrwyr a holwyd o’r farn fod dynes i’w beio i raddau os ydy hi’n cerdded ar ei phen ei hun mewn man diarffordd.

Dywedodd Cathy Owens, Cyfarwydd-ydd Rhaglen Amnesty Rhyngwladol Cymru:

"Os ydym yn mynd i dorri’r cylch o drais sy’n golygu fod traean o holl fenywod Cymru yn dioddef rhyw fath o drais, yna mae angen i ni ddechrau drwy herio agweddau pobl tuag at drais yn erbyn menywod, ymhlith myfyrwyr a’r boblogaeth yn gyffredinol. Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried ymgyrch gynhwysfawr wedi ei hanelu at atal trais – gan ei wneud yn llawer llai derbyniol ar ein campysau ac yn ein cymunedau."

Dywedodd Jo Roberts, Swyddog Menywod UCMC:

"Rydym wedi bod yn galw ers tro am well gwasanaethau ar gyfer myfyrwyr sydd wedi dioddef trais, ac mae’r canlyniadau hyn yn cadarnhau, nid yn unig fod camdriniaeth yn aml yn digwydd ymhlith myfyrwyr, ond hefyd nad yw myfyrwyr yn gwybod at bwy i droi pan fo hynny’n digwydd. Mae angen i Brifysgolion a Cholegau feddwl eto ynglŷn â lles eu myfyrwyr."

Dywedodd Nerys Evans AC:

"Roeddwn yn siomedig o weld y canlyniadau hyn, ond maent yn gyson â'r hyn 'rwyf wedi ei weld ar y campws ac o fewn i gymdeithas yn gyffredinol. Gyda phwyllgor yn ymchwilio i sut mae Llywodraeth y Cynulliad yn mynd i’r afael â chamdriniaeth yn y cartref, nawr yw’r amser i edrych unwaith eto ar faint 'rydym yn ei fuddsoddi mewn atal camdriniaeth a helpu dioddefwyr camdriniaeth.

Mae'r canlyniadau sy’n perthyn i agweddau pobl tuag at ymosodiad rhywiol hefyd yn fater o bryder. Mae yno angen gwirioneddol am fynd i’r afael â'r awgrym y gall dynes fod yn gyfrifol am gael ei threisio."

View latest press releases