Skip to main content
Amnesty International UK
Log in

Amnest yn taflu golau ar lywodraeth cyrmru i lansio ymgyrch etholiadol

  • Arlunydd byd-enwog o Gymru, Michael Bosanko, yn creu delwedd newydd eiconig
  • Actifyddion yn gofyn am addewidion gan ymgeiswyr i’r Cynulliad i Gefnogi Hawliau Dynol

Heddiw (dydd Iau, 27 Ionawr), mae Amnest Rhyngwladol yn lansio ei ymgyrch addewid ar gyfer ymgeiswyr yn Etholiadau Llywodraeth Cymru 2011 ym mis Mai, gyda gwaith newydd a wnaed gan yr arlunydd graffiti ysgafn Michael Bosanko.

Mae’r arlunydd o Gymru, Bosanko, wedi gwneud enw iddo’i hun dros y byd i gyd gyda’i luniau ysgafn unigryw a bydd ei ddelwedd o’r Senedd yn darlunio ymgyrch Amnest sy’n galw am i’r holl ymgeiswyr Gefnogi Hawliau Dynol.

Byddwn yn gofyn i aelodau Amnest ar draws Cymru gysylltu â’u hymgeiswyr yn etholiadau mis Mai yn eu hetholaethau a’u rhanbarthau a gofyn iddyn nhw gael tynnu eu llun gyda hysbyslen Amnest sy’n dweud “Rydw I’n Cefnogi Hawliau Dynol”. Bydd y lluniau’n cael eu harddangos ar lein ar www.amnesty.org.uk/cymru
Dywedodd Cathy Owens, Cyfarwyddwr Rhaglenni Amnest Rhyngwladol

“Mae mor gyffrous bod Michael wedi cytuno i wneud hyn i ni. Mae bob amser yn teithio o gwmpas y Byd yn ymestyn ei bortffolio ac yn arddangos mannau ac adeiladau eiconig. Rydyn ni’n hynod o falch iddo roi amser i’n helpu i rannu ein neges.”

“Byddwn yn gofyn i’r holl ymgeiswyr addo i Gefnogi Hawliau Dynol. Nid cysyniadau haniaethol yn unig yw’r rhain sy’n achosi pryder mawr mewn mannau cythryblus o gwmpas y Byd. Rydyn ni’n sôn am yr hawl i’r henoed gael eu trin yn dda yng Nghymru, yr hawl i amddiffyniad rhag trais, gwell gwasanaethau i ddioddefwyr masnachu mewn pobl a mathau eraill o drais yn erbyn merched a gwell dulliau o sicrhau ein bod yn gweithio gyda llywodraethau tramor yn y modd cywir.”

View latest press releases