Skip to main content

Etholiad y Senedd 2026

Cawn ein uno gan ein dynoliaeth, ac rydym yn gwybod bod y pŵer i greu newid cadarnhaol o fewn pob un ohonom.

Y Senedd

Y Senedd

Ar 7 Mai 2026, bydd Cymru’n ethol aelodau newydd o’r Senedd a Llywodraeth newydd i Gymru.

Mae hwn yn gyfle hollbwysig i osod hawliau dynol wrth wraidd y Senedd.

Mae pawb yn haeddu’r hawliau sylfaenol sy’n angenrheidiol ar gyfer bywyd da – tai, bwyd, gofal iechyd ac addysg.

Mae’r hawliau hyn yn rhyng-gysylltiedig ac yn ddibynnol ar ei gilydd er mwyn sicrhau safon byw ddigonol i bawb.

Pam mae etholiad 2026 yn bwysig

Ledled Cymru, gwelwn yr un heriau. Mae pwysau ar safonau byw wedi dwysáu ac mae anghydraddoldeb wedi lledu. Mae bywyd wedi mynd yn anoddach, gan adael llawer o bobl yn stryffaglu i sicrhau’r hanfodion sydd eu hangen er mwyn byw’n urddasol. Ond nid yw’r pethau hyn yn anochel. Maen nhw’n deillio o ddewisiadau gwleidyddol.

Gall etholiad 2026 fod yn adeg o bosibilrwydd yng Nghymru. Mae’n gyfle i ymgeiswyr ac arweinwyr pleidiau ganolbwyntio eu sylw ar yr hyn y mae pobl ei eisiau – sef camau ymarferol tuag at adeiladu Cymru fwy cyfiawn i bawb.

Mae pobl yng Nghymru eisiau gweld cymdeithas deg a gweddus lle nad oes rhaid i unrhyw un frwydro dros yr hanfodion. Mae bil hawliau dynol a fydd yn cyflwyno amddiffyniadau cyfreithiol cryf ar gyfer yr hawliau beunyddiol hynny yn gam hanfodol ar gyfer cyflawni’r dyfodol hwnnw.

Yr hyn rydym ni’n galw amdano

Yn y cyfnod cyn etholiad 2026, rydym yn galw ar ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol i ymrwymo i gryfhau amddiffyniadau hawliau dynol.

Mae Amnesty International wedi cyhoeddi maniffesto hawliau dynol sy’n nodi ein galwadau ar Lywodraeth nesaf Cymru i greu Cymru fwy cyfiawn a mwy cyfartal.

Ffyrdd o gymryd rhan

Anfonwch neges e-bost at eich ymgeiswyr lleol nawr ac anogwch nhw i gefnogi Bil Hawliau Dynol yn y Senedd nesaf i amddiffyn hawliau pob dydd i bawb.