Amnest Cymru
Cawn ein uno gan ein dynoliaeth, ac rydym yn gwybod bod y pŵer i greu newid cadarnhaol o fewn pob un ohonom.
Amdanom ni
Mae Amnest Cymru’n gweithio’n lleol ac yn genedlaethol. Rydym yn gweithio gyda llywodraeth Cymru, y Senedd, a sefydliadau ac mae grwpiau Amnest lleol yn ymgyrchu mewn cymunedau ledled Cymru. Gyda’n gilydd, rydym yn ymgyrchu i atgyfnerthu hawliau dynol.
Deddf hawliau dynol ar gyfer Cymru
Ar 7 Mai 2026, fe wnaeth Cymru ethol aelodau newydd ar gyfer y Senedd a llywodraeth newydd i Gymru.
Mae hwn yn gyfle hollbwysig i osod hawliau dynol wrth wraidd y Senedd.
Mae pawb yn haeddu’r hawliau sylfaenol sy’n angenrheidiol ar gyfer bywyd da – tai, bwyd, gofal iechyd ac addysg.
Mae’r hawliau hyn yn rhyng-gysylltiedig ac yn ddibynnol ar ei gilydd er mwyn sicrhau safon byw ddigonol i bawb.
Ledled Cymru, gwelwn yr un heriau. Mae pwysau ar safonau byw wedi dwysáu ac mae anghydraddoldeb wedi lledu. Mae bywyd wedi mynd yn anoddach, gan adael llawer o bobl yn stryffaglu i sicrhau’r hanfodion sydd eu hangen er mwyn byw’n urddasol.
Ond nid yw’r pethau hyn yn anochel. Maen nhw’n deillio o ddewisiadau gwleidyddol.
Mae pobl yng Nghymru eisiau gweld cymdeithas deg a gweddus lle nad oes rhaid i unrhyw un frwydro dros yr hanfodion. Mae bil hawliau dynol a fydd yn cyflwyno amddiffyniadau cyfreithiol cryf ar gyfer yr hawliau beunyddiol hynny yn gam hanfodol ar gyfer cyflawni’r dyfodol hwnnw.
Trwy flaenoriaethu Bil Hawliau Dynol i Gymru, byddai’r Prif Weinidog yn arwain newid trawsffurfiol. Yn ogystal, byddai’n gwneud datganiad am y math o Gymru y mae eisiau ei hadeiladu.
Ein cynigion ar gyfer llywodraeth newydd Cymru
Mae Amnesty International wedi cyhoeddi maniffesto hawliau dynol sy’n nodi ein galwadau ar Lywodraeth nesaf Cymru i greu Cymru fwy cyfiawn a mwy cyfartal. Anogwn lywodraeth nesaf Cymru i:
- Gyflwyno deddf hawliau dynol ar gyfer Cymru
- Cefnogi hawliau dynol trwy gaffael cyhoeddus a buddsoddi
- Hyrwyddo a diogelu hawliau dynol yn rhyngwladol
Dywedwch wrth Brif Weinidog Cymru i flaenoriaethu Bil Hawliau Dynol
Mae etholiad 2026 drosodd ac mae gennym ni bellach y cyfle i adeiladu’r gymdeithas deg a gweddus y pleidleisiodd pobl drosti. Mae'n bryd i'r Prif Weinidog weithredu a sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu byw bywyd ag urddas – a gallwch chi helpu.
Related content (Saesneg yn unig)
See all latest news updates on Amnesty International UK's work in Wales
See all resources for Amnesty International UK's work in Wales in our Knowledge Hub
Raise awareness of human rights in your classroom with Welsh-language education resources and activities