Tachwedd 2009
Newyddion da oddi wrth Amnest Rhyngwladol

Annwyl Gefnogwyr,

I ddathlu tymor yr ŵyl, dyma rai rhesymau am fod yn hapus. Anaml iawn mae penawdau’r newyddion yn gadarnhaol. Eto o edrych yn ôl ar 2009, rydym wedi gweld llawer i’w ddathlu – hoffem rannu ychydig o’r uchafbwyntiau hyn gyda chi.

Diolch am eich holl gefnogaeth yn ystod y flwyddyn.

Yn gywir,

Kate Allen
Kate Allen,
Cyfarwyddwr

RHYDDID i un o garcharorion Guantánamo
Binyam Mohamed Ym mis Ionawr, cyhoeddodd yr Arlywydd Obama y byddai Guantánamo yn cau. Ym mis Chwefror, rhyddhawyd Binyam Mohamed. Diolchodd i’r rhai oedd wedi ysgrifennu ato, gan ddweud “Ni fyddwn adref ym Mhrydain heddiw oni bai am gefnogaeth pawb. Yn wir, mae’n sicr na fyddwn yn fyw heddiw o gwbl.” Mwy
GWEITHREDU ar ddiffyg rheolaeth ar arfau peryglus
 Ym mis Ebrill, daeth deddfwriaeth newydd ar reoli arfau yn y DU i rym gan sicrhau na fyddai cwmniau arfau yn y DU yn gallu masnachu arfau bychain i ardaloedd poeth hawliau dynol.
AMDDIFFYNIAD i deulu o Brazil
 Ym mis Gorffennaf, clywsom bod ymateb cryf gan Rwydwaith Gweithredu Brys Amnest wedi helpu i sicrhau diogelwch Jose Luis da Silva, Severina dos Santos Silva a’r teulu ar ôl bygythiadau i’w bywydau. Roedden nhw’n credu bod hyn yn gysylltiedig â’u brwydr am hawliau tir. Mwy
SIAWNS ARALL i Troy Davis
Troy Davis

Ym mis Awst, ar ôl misoedd o ymgyrchu, dywedodd Uwch Lys yr UD y dylai Troy Davis., carcharor oedd yn wynebu’r gosb eithaf, gael cyfle i brofi’r ffaith nad yw’n euog cyn i dalaith Georgia ei ddienyddio. Disgwyliwn y bydd y gwrandawiad yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd. Mwy

NEWYDDION DA o’r Cynulliad Cenedlaethol

Ym mis Hydref, pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru bleidlais sy’n clymu Llywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth integredig fyddai’n mynd i’r afael â thrais yn erbyn merched. Mwy

Cam mawr tuag ag GYFIAWNDER yn Gaza

Ym mis Tachwedd, gwelsom y symudiad mwyaf eto yn yr ymgyrch dros gyfiawnder i ddioddefwyr y gwrthdaro yn Gaza. Pleidleisiodd Cynulliad Cyffredin y Cenhedloedd Unedig i gadarnhau Adroddiad Goldstone. Mae hwn yn galw ar Israel a Hamas i ymchwilio i droseddau rhyfel neu wynebu ymyrriad gan y Llys Troseddau Rhyngwladol. Mwy

Amnesty International Secretary-General, Irene Khan
Two Kenyan girls celebrating the opening of the first safe house in Kenya to shelter girls threatened with female genital mutilation © Paula Allen
Hands gripping bars
Actor Jimmy Nesbitt holds a Protect the Human placard

Os bydd gennych unrhyw gwestiwn neu ymateb i'r e-bost hwn neu waith Amnest, cysylltwch n t'm Gofal Cefnogwyr ar sc@amnesty.org.uk neu +44(0)20 7033 1777

Mae Amnest Rhyngwladol y DU yn gwmni cyfyngedig drwy warant. Cofrestrwyd yn Lloegr rhif 01735872, swyddfa gofrestredig



--

Click this link to unsubscribe.




{~J82145728158159434746302715~}