Etholiadau'r cynulliad: 5 Mai 2011
Mae Amnest Rhyngwladol wedi gweithio'n llwyddiannus gyda Llywodraeth y Cynulliad ac Aelodau'r Cynulliad dros y blynyddoedd diwethaf a gwelwyd cynnydd ar faterion datganoledig fel cyflwyno strategaeth i fynd i'r afael â thrais yn erbyn merched, darparu gofal iechyd i geiswyr lloches a chyflwyno addysg hawliau dynol mewn ysgolion yng Nghymru.
Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol oedd yn sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud hi'n glir bod yn rhaid i Gynulliad Cymru a Llywodraeth y Cynulliad gydymffurfio â deddfwriaeth hawliau dynol wrth gyflenwi eu gwasanaethau. Mae'n rhaid i ni barhau i ymgyrchu, fodd bynnag, yn y meysydd hynny lle mae annhegwch efallai ac i ailadrodd pwysigrwydd ystyried materion hawliau dynol wrth ddatblygu polisïau.
Hoffem ymgysylltu ag ymgeiswyr newydd yn yr etholiad hwn, ynghyd â gofyn i Aelodau presennol y Cynulliad ail gadarnhau eu hymrwymiad i egwyddorion hyrwyddo hawliau dynol.
GWELWCH PA YMGEISWYR SYDD WEDI GWNEUD YR ADDEWID
Gwelwch fap mwy a rhestr yn ôl y wyddor o etholaethau a rhanbarthau
|
|
|
|
DULLIAU ERAILL O GYMRYD RHAN
Gallwch hefyd fynychu digwyddiadau hustyngau, neu gyfarfod â'ch ymgeiswyr i drafod yn ddyfnach faterion hawliau dynol. Lawr lwythwch yr adnoddau canlynol i'ch helpu:
Taflen A5 gan gynnwys poster: cyflwyniad i'r ymgyrch (pdf)
Pecyn Gweithredwr: gwybodaeth ychwanegol a syniadau gweithredu ar gyfer grwpiau lleol (pdf)
DARGANFYDDWCH FWY
Gallwch hefyd lawr lwytho nodiadau briffio am bynciau allweddol yn ymwneud â'r Cynulliad a Hawliau Dynol er mwyn i chi allu rhoi pwysau ar yr ymgeiswyr am broblemau penodol.
- Sicrhau y canolbwyntir ar hawliau dynol mewn cysylltiadau â llywodraethau tramor
- Amddiffyn hawliau pobl hyˆn, cleifion ysbytai a phobl mewn gofal
- Cymryd camau pellach i leihau trais yn erbyn menywod
- Hyrwyddo cydraddoldeb ac atal gwahaniaethu mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
- Hyrwyddo addysg hawliau dynol yn ein hysgolion
I archebu hysbyslenni neu gopïau o unrhyw un o'r deunyddiau, gallwch gysylltu â ni (anfonwch at:cymru@amnesty.org.uk) yn Swyddfa Cymru
