Stopiwch Drais yn erbyn Menywod

Mae'n debyg mai trais yn erbyn menywod yw'r gamdriniaeth fwyaf cywilyddus o hawliau dynol, ac efallai'r un fwyaf treiddiol. Nid oes iddi ffiniau daearyddol, diwylliannol neu ariannol.' Cyn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Kofi Annan

Bydd un o bob tri menyw yng Nghymru yn dioddef trais yn ystod eu bywydau, naill ai trais yn y cartref, trais rhywiol, priodas gorfodol, anafu organau rhywiol (female genital mutilation), masnachu mew pobl neu math arall o drais.

Rudym yn ymgyrchu i atal trais yn erbyn menywod yma yng Nghymru ac o gwmpas y Byd. Yng Nghymru, rydym yn galw are Llywodraeth y Cynulliad i datblygu strategaeth integredig i atal trais o bob math. Rydym hefyd yn gweithredu i atal trais drwy herio ymagweddau tuag at drais a hybu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac addysg yng Nghymru. 

Adroddiad: Masnachu ar gyfer camfanteisio rhywiol yng nghymru

Rydym yn parhau i ymgyrchu i helpu dioddefwyr masnachu yng Nghymru. Nodwn llwyddiant yn barod, wrth i Llywodraeth y Cynulliad talu am hafan bach ar gyfer dioddefwyr yng Nghymru.

Gellir dysgu mwy am y destun wrth darllen ein adroddiad "Tan y Gorchudd: Masnachu ar gyfer Camfanteisio Rhywiol yng Nhymru" sydd yn archwilio maent y masnach yng Nghymru, ac yn ddangos nad yw'r masnach wedi ei cyfyngu i'n dinasoedd, ond welir dioddefwyr hefyd yn ein cymunedau bach ar draws y wlad.

Gellir darllen gopi o'r adroddiad yma (pdf)

Canlyniad Arolwg: safbwynt myfyrwyr yng nghymru

Cyhoeddodd Amnest Rhyngwladol a Ymgyrch Menywod UCM Cymru canlyniadau brawychus arolwg newydd sy'n dangos lefel o drais yn y cartref ymlith myfyrwyr yng Nghymru. Rydym yn galw am well gwasanaethau i dioddefwyr yn ein colegau a prifysgolion, ac ymgyrch newydd gan Llywodraeth y Cynulliad i herio agweddau ynglyn a drais yn erbyb menywod.

Lawrlwythiwch y canlyniadau a datganiad y wasg