Mae swyddfa Amnest yng Nghaerdydd yn ganolbwynt i ymgyrchu a digwyddiadau yng
Nghymru. Mae Amnest yn codi pryderon gyda gwleidyddion Gymreig; yn mynegu ein
neges trwy'r cyfryngau yng Ngymru ac yn ymgyrchu dros nifer o weithgareddau hawliau dynol.
Gwirfoddoli dros Amnest yng Nghymru | Ymaelodi a'ch grwp lleol
Codwyd lluniau trawiadol o gwmpas Caerdydd i godi ymwybyddiaeth am ein hymgyrch ysgrifennu 2011. Darllenwch mwy at amnesty.org.uk/fence
ETHOLIADAU'R CYNULLIAD: 5 MAI 2011
|
Lansiwyd
Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, a'r Comisiynydd Plant, Keith Towler
ein pecyn newydd ar gyfer ysgolion cynradd yng Nghymru. Dyma'r tro
cyntaf i ni gynllunio adnoddau addysgol ar gyfer plant o 5 i 11 i helpu
athrawon dechrau archwilio hawliau dynol yn ysgolion cynradd - gyda
ffocws ar degwch, rhyddid a hawliau plant ifanc.
Wedi eu lansio yn Ysgol Gynradd Model, Caerfyrddin, mae'r adnoddau dwyieithog yn rhad ac am ddim. Maent yn annog plant ifanc i ystyried eraill ac yn cynnwys syniadau creadigol i ddod a hawliau dynol i fyw trwy brosiectau artistig.
Gwersi a gweithgareddau Llyfryn: Saesneg (pdf) | Cymraeg (pdf)
Dolenni cwricwlwm: Saesneg (pdf) | Cymraeg (pdf)
Daeth Kate Allen, Cyfarwyddwr Amnest yn y Deyrnas Unedig, i Abertawe i weld pobl ifanc yn perfformio'r Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn Eisteddfod yr Urdd.
I gael y newyddion diweddaraf am weithgareddau Amnest yng Nghymru, arwyddwch i dderbyn ein taflen newyddion e-bost misol. Wedi colli un?
Amnest Rhyngwladol Cymru
Llys y Deml
Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9HAFfôn: +44 (0)29 2078 6415
Ffacs: +44(0)29 2078 6416
Ebost cymru@amnesty.org.uk
Os oes gennych diddordeb yn wirfoddoli dros Amnest yn y swyddfa, e-bostiwch eich CV i cymru@amnesty.org.uk a fyddwn yn ymateb os oes swydd addas ar gael.